Wales Week: Meet the People Supporting Families Across Wales
Scroll down for English Translation
Fel rhan o Wythnos Cymru, rydym yn taflu goleuni ar rai o’r bobl anhygoel yn Cronfa’r Teulu sy’n helpu i wneud gwahaniaeth i deuluoedd sy’n magu plant a phobl ifanc anabl neu sydd â salwch difrifol ledled Cymru.
O godi arian a gwirfoddoli i ddylanwadu ar bolisi a llywodraethu, mae ein cydweithwyr a’n hymddiriedolwyr yn angerddol am wella bywydau teuluoedd a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Cwrdd â Jenna
Jenna yw swyddog Codi Arian Cymunedol a Gwirfoddoli Cronfa’r Teulu Cymru. Ar ôl ymuno â Cronfa’r Teulu ym mis Medi, mae Jenna wedi gweithio gydag unigolion, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau ledled Cymru er mwyn helpu i dyfu cyfleoedd codi arian a gwirfoddoli. Os oes rhywun eisiau trefnu codi arian, cymryd rhan mewn digwyddiad, neu wirfoddoli eu hamser a’u sgiliau, mae Jenna yno i helpu pob cam o’r ffordd.
Mae Jenna yn angerddol am ei gwneud hi’n hawdd i bobl gefnogi teuluoedd mewn ffyrdd sy’n bleserus, ystyrlon a hygyrch.
“Rwy’n angerddol am adeiladu cysylltiadau ledled Cymru a helpu pobl i ddod o hyd i ffyrdd hwyliog ac ystyrlon o gefnogi teuluoedd sy’n magu plant anabl neu sydd â salwch difrifol. Fel siaradwr Cymraeg, mae hefyd yn bwysig iawn i mi gadw’r Gymraeg wrth galon ein gwaith a sicrhau bod teuluoedd a chefnogwyr yn gallu cysylltu â ni yn yr iaith maen nhw’n teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.”
Cwrdd â Davina
Davina yw Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Cronfa’r Teulu Cymru.
Mae ei rôl yn canolbwyntio ar sicrhau bod lleisiau’r teuluoedd sy’n magu plant anabl neu sydd a salwch difrifol yn cael eu clywed a sicrhau bod eu profiadau hefyd yn cael gwrandawiad gan lunwyr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaid ledled Cymru.
Trwy ei gwaith, mae Davina yn helpu i dynnu sylw at yr heriau y mae teuluoedd yn eu hwynebu.
“Fel Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Cymru yn Cronfa’r Teulu, rwy’n sicrhau bod lleisiau’r teuluoedd sy’n magu plant anabl neu sydd a salwch difrifol yn cael eu clywed. Drwy rannu eu profiadau, rwy’n ymgysylltu â llunwyr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaid ledled Cymru er mwyn helpu i wella bywydau’r 38,600 o deuluoedd yng Nghymru sy’n bodloni meini prawf Cronfa’r Teulu.”
Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad at seibiannau, sicrwydd ariannol, a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gofal plant, clybiau ar ôl ysgol a chwaraeon. Yn fwy na dim, rwy’n gweithio i leihau’r pwysau maen nhw’n eu hwynebu a helpu i atal teuluoedd rhag cyrraedd pwynt o argyfwng.”
Trwy ymchwil, ymgyrchu a gweithio mewn partneriaeth, mae Davina yn helpu i sicrhau bod anghenion teuluoedd yn parhau i fod yn gadarn ar yr agenda ledled Cymru.
Cwrdd ag Ian Thomas
Mae Ian Thomas wedi bod yn ymddiriedolwr gwirfoddol gyda Cronfa’r Teulu am y tair blynedd diwethaf ac mae’n chwarae rhan bwysig wrth helpu i lywio gwaith yr elusen.
Fel ymddiriedolwr, mae Ian yn helpu i sicrhau bod Cronfa’r Teulu yn parhau i ddarparu cefnogaeth ystyrlon i deuluoedd ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, tra hefyd yn cynorthwyo gyda llunio cyfeiriad yr elusen yn y dyfodol.
“Mae Cronfa’r Teulu yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi teuluoedd sy’n magu plentyn anabl neu sydd â salwch difrifol yng Nghymru. Fel ymddiriedolwr gwirfoddol am y tair blynedd diwethaf, mae wedi bod yn bleser llwyr cefnogi’r elusen i wneud mwy dros ein buddiolwyr yng Nghymru a thu hwnt.
Gallwn wneud llawer mwy trwy gynyddu ein cefnogaeth gymunedol, codi arian a gwirfoddoli. Fel ymddiriedolwr, rwy’n edrych ymlaen at y tair blynedd nesaf a helpu teuluoedd ledled Cymru.”
Gweithio gyda’n gilydd dros deuluoedd ledled Cymru
Trwy gefnogi cymunedau i godi arian a gwirfoddoli, dylanwadu ar lunwyr polisi a phenderfyniadau, neu helpu i lywio cyfeiriad strategol yr elusen, mae cydweithwyr ac ymddiriedolwyr ledled Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu Cronfa’r Teulu i roi cefnogaeth i deuluoedd pan fyddan nhw ei hangen fwyaf.
Yn ystod Wythnos Cymru eleni, rydym yn falch o ddathlu’r bobl y tu ôl i’n gwaith a’u hymrwymiad i wneud gwahaniaeth i deuluoedd ledled y wlad.
English Translation
As part of Wales Week, we’re shining a spotlight on some of the incredible people at Family Fund who are helping to make a difference for families raising disabled or seriously ill children and young people across Wales.
From fundraising and volunteering to influencing policy and governance, our colleagues and trustees are passionate about improving the lives of families and ensuring their voices are heard.
Meet Jenna
Jenna is Family Fund’s Community and Volunteering Fundraiser for Wales.
Having joined Family Fund in September, Jenna works with individuals, community groups, schools and businesses across Wales to help grow fundraising and volunteering opportunities.
Whether someone wants to organise a fundraiser, take part in an event, or volunteer their time and skills, Jenna is there to help every step of the way.
Jenna is passionate about making it easy for people to support families in ways that are enjoyable, meaningful and accessible.
“I’m passionate about building connections across Wales and helping people find fun and meaningful ways to support families raising disabled or seriously ill children. As a Welsh speaker, it’s also really important to me to keep the Welsh language at the heart of our work and make sure families and supporters can connect with us in the language they feel most comfortable using.”
Whether you already have an idea in mind or are looking for inspiration, Jenna is always happy to chat about how you can get involved.
Meet Davina
Davina is Family Fund’s Public Affairs and Policy Manager for Wales.
Her role focuses on amplifying the voices of families raising disabled or seriously ill children and ensuring their experiences are heard by policymakers, stakeholders and partners across Wales.
Through her work, Davina helps highlight the challenges families face.
“As Public Affairs and Policy Manager for Wales at Family Fund, I amplify the voices of families with disabled and seriously ill children. By sharing their experiences, I engage with policymakers, stakeholders and partners across Wales to help improve the lives of the 38,600 families in Wales who meet the Family Fund criteria.
My work focuses on ensuring families have access to breaks, financial security, and opportunities to participate in childcare, after-school clubs and sport. Above all, I work to reduce the pressures they face and help prevent families from reaching crisis point.”
Through research, campaigning and partnership working, Davina helps ensure that the needs of families remain firmly on the agenda across Wales.
Meet Ian Thomas
Ian Thomas has been a volunteer trustee at Family Fund for the past three years and plays an important role in helping guide the charity’s work.
As a trustee, Ian helps ensure Family Fund continues to deliver meaningful support for families across Wales and the rest of the UK, while also helping shape the charity’s future direction.
“The Family Fund plays a critical role supporting families raising a disabled or seriously ill child in Wales. As a volunteer trustee for the past three years, it has been an absolute pleasure to support the charity to do more for our beneficiaries in Wales and beyond.
We can do so much more by increasing our community support, fundraising and volunteering. As a trustee, I am looking forward to the next three years and helping families across Wales.”
Working Together for Families Across Wales
Whether it’s supporting communities to fundraise and volunteer, influencing policy and decision-makers, or helping guide the charity’s strategic direction, colleagues and trustees across Wales play a vital role in helping Family Fund support families when they need it most.
This Wales Week, we’re proud to celebrate the people behind our work and their commitment to making a difference for families across the country.