Cyd-glymblaid ar gyfer Teuluoedd â Phlant Anabl yng Nghymru
Cliciwch yma i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg.
Y Gynghrair
Wedi’u hwyluso gan Gronfa’r Teulu, mae’r sefydliadau isod wedi ffurfio cynghrair i eirioli dros bolisïau a gwasanaethau cynhwysol sy’n mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu teuluoedd â phlant anabl yng Nghymru.
| Family Fund | Mencap Cymru |
| Whizz Kids | Anabledd Cymru/Disability Wales |
| Fast UK | Anabledd Dysgu Cymru/Learning Disability Wales |
| Dal Dwylo & Angelman UK | The Royal Society for Blind Children |
| Piws | Gwent Parent Carer Network |
| All Wales Forum | Anabledd Dysgu Cymru/Children in Wales |
| Ymestyn yn Ehangach/Reaching Wider | Chwaraeon Alabledd Cymru/Disability Sport Wales |
| AP Cymru | Contact |
Pam fod angen y Gynghrair
Mae teuluoedd â phlant anabl yn aml yn wynebu costau byw sylweddol uwch a llai o allu i ennill, gan adael llawer mewn caledi ariannol. O ganlyniad, gall plant anabl a’u brodyr a chwiorydd fod yn fwy tebygol o ddioddef effeithiau tlodi plant, tra bod llawer o rieni/gofalwyr yn cael trafferth ymdopi o herwydd straen, ynysu ac iselder.
Yn rhy aml, mae polisïau a gwasanaethau a ddylai gefnogi teuluoedd â phlant anabl, yn methu â chymryd eu hanghenion penodol i ystyriaeth.
Ffurfiwyd y Gynghrair er mwyn annog deialog fwy cynhyrchiol gyda theuluoedd sy’n magu plant anabl, ac i eirioli dros becyn teg o gymorth ariannol, cymorth ymarferol a llesiant i sicrhau bod pob plentyn anabl yng Nghymru yn gallu byw’n dda, chwarae a ffynnu.
Maniffesto ar gyfer Cymru decach
Mae Maniffesto’r Gynghrair yn nodi’r hyn y mae’n rhaid i lunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau ei wneud i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd mewn cymorth sy’n effeithio ar fywydau plant anabl a’u teuluoedd yng Nghymru.
Wedi’i wreiddio ym mhrofiad byw teuluoedd, mae’r Maniffesto wedi’i lywio gan farn y rhai sy’n cymryd rhan yn fforwm Cymru gyfan ar gyfer Ymgysylltu â Rhieni a Gofalwyr sy’n Rhanddeiliaid (SPACE), a chan ymchwil Cost Gofalu 2025 Cronfa’r Teulu i gost ariannol ac emosiynol gofalu am blentyn anabl. Mae’r Maniffesto yn cymryd ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau, wedi’i wreiddio yn ar y CCUHP, CCUHPD, y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
1. Sefydlu bwrdd cynghori i roi profiad byw wrth galon llywio a llunio polisïau a gwasanaethau
- Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu bwrdd cynghori, dan arweiniad teuluoedd sydd â phrofiad byw o fagu plant anabl, i lywio a llunio penderfyniadau am y polisïau a’r gwasanaethau sy’n effeithio ar eu bywydau
2. Sicrhau bod teuluoedd â phlant anabl yn cael y diogelwch ariannol a’r gefnogaeth hanfodol sydd eu hangen trwy…
- Cynyddu budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd a’r Lwfans Gofalwr i adlewyrchu gwir gost gofalu
- Sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad trwy gydol y flwyddyn at gymorth grant ar gyfer eitemau hanfodol, er mwyn osgoi’r risg o syrthio i ddyled neu argyfwng
- Darparu cymorth ynni wedi’i deilwra i aelwydydd sy’n dibynnu ar offer achub bywydau neu gyfarpar meddygol
- Sicrhau mynediad amserol at gyllid ar gyfer addasiadau tai a gwaith cynnal a chadw hanfodol
- Cynyddu mynediad at chwarae, hobïau, chwaraeon a’r celfyddydau, fel nad yw plant anabl yn cael eu heithrio o’r profiadau sy’n ffurfiannol mewn plentyndod
3. Mynd i’r afael â rhwystrau cyflogaeth i rieni/gofalwyr a phobl ifanc anabl trwy…
- Datblygu rhaglenni hyblyg yn ôl i’r gwaith sy’n cydnabod bod rhieni/gofalwyr yn aml yn gorfod ymdrechu i gadw cydbwysedd rhwng gwaith a rôl gofalu di-dâl llawn amser
- Diwygio’r ddarpariaeth gofal plant i sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at ofal plant arbenigol, dibynadwy a hyblyg, yn y cartref lle bo angen
- Cael gwared ar rwystrau i ddisgyblion anabl allu cael mynediad at brofiad gwaith
- Creu cyfleoedd cyflogaeth cynhwysol i oedolion ifanc anabl trwy interniaethau â chymorth, hyfforddiant gwaith a chynnig cymhellion i gyflogwyr
4. Blaenoriaethu iechyd a lles teuluoedd â phlant anabl trwy…
- Ehangu darpariaeth seibiant byr a seibiant i gynyddu lles teuluol a chefnogi’r rhai mewn rolau gofalu
- Darparu cymorth iechyd meddwl hygyrch i ofalwyr plant anabl
- Gosod terfynau amser ar gyfer cael mynediad at therapïau a gofal seibiant i blant anabl a phlant sy’n ddifrifol wael er mwyn lleihau dirywiad iechyd y gellir ei atal a straen teuluol