Ydych chi'n gymwys i ymgeisio? Pwy rydyn ni'n eu helpu? Rydym yn helpu teuluoedd ar draws y DU sy'n magu plentyn neu berson ifanc anabl neu ddifrifol wael 17 oed ac iau. Gallwch wneud cais i Gronfa'r Teulu os: Ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban. Rydych yn rhiant neu'n ofalydd i blentyn neu berson ifanc anabl neu ddifrifol wael 17 oed ac iau. Rydych yn byw'n barhaol yn y DU ac wedi byw yn y DU yn ystod y chwe mis diwethaf. Mae gennych dystiolaeth o'ch hawl i un o'r canlynol: Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Ceiswyr Swydd Incwm-Seiliedig, Cymorth Incwm, Budd-dal Analluogrwydd*, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai a Chredyd Pensiwn. Os nad ydych yn derbyn unrhyw un o'r uchod, gallwch wneud cais beth bynnag, ond bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnom ynglŷn ag incwm eich cartref. Yn dibynnu ar faint o arian sy'n dod i mewn i'ch cartref, efallai na fyddwn yn gallu helpu gan fod rhaid i ni flaenoriaethu'r rhai sydd ar yr incymau isaf. Os nad ydych yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau uchod, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol a thystiolaeth o holl incwm eich cartref, a byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi wneud cais. Os hoffech ofyn unrhyw gwestiynau neu drafod y cais cyn i chi ei wneud, cysylltwch â ni. *Noder: Efallai bydd angen i ni gysylltu â chi am ragor o wybodaeth ynghylch incwm eich cartref. Pam mae terfyn incwm? Rhoddir ein holl grantiau yn ôl disgresiwn ac maent yn amodol ar y cyllid sydd ar gael, felly efallai byddwn yn gwrthod cais ble mae gan deulu lefel sylweddol o gyfalaf neu incwm y cartref. Ble nad ydym yn gallu helpu Ni allwn helpu plant a phobl ifanc yng ngofal awdurdodau lleol, yn cynnwys y rhai hynny sy'n byw gyda gofalwyr maeth. Mae hyn oherwydd bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyffredinol i ddiogelu a hybu lles unrhyw blentyn yn eu gofal, ac i ddiwallu anghenion y plentyn. Ni allwn helpu ychwaith gyda cheisiadau ble mae gan asiantaeth statudol (fel awdurdodau lleol neu wasanaethau iechyd) gyfrifoldeb i ddarparu'r eitem sydd ei hangen. Cwestiynau Cyffredin “Nid oedd fy mhlentyn yn gymwys i dderbyn cymorth o'r blaen. A alla i wneud cais eto? “ Er bod plentyn efallai heb fodloni ein meini prawf cymhwyster i dderbyn cymorth i ddechrau, gall hyn newid gydag amser a gallent ddod o fewn ein meini prawf yn ddiweddarach. Neu efallai bydd cyflwr plentyn wedi gwaethygu ers y tro diwethaf a nawr rydych yn teimlo y bydden nhw'n bodloni'n meini prawf. Cofiwch – Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch a fyddai eich plentyn neu berson ifanc yn bodloni meini prawf y Gronfa, gwnewch gais. Pan dderbyniwn eich cais, byddwn yn gwirio a ydyw'n bodloni ein holl feini prawf cymhwysedd.Gwneud cais am grant.