Ein meini prawf anabledd Mae Cronfa'r Teulu'n defnyddio ei Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc i asesu anghenion cymorth ychwanegol plentyn neu berson ifanc anabl neu ddifrifol wael ar sail model cymdeithasol o anabledd. Mae plant a phobl ifanc ag anghenion cymorth ychwanegol sy’n ymgodi o anabledd neu gyflwr sy'n anablu, neu sydd â salwch difrifol neu sy'n byrhau bywyd, yn bodloni'r meini prawf hyn lle: Mae tystiolaeth fod eu hanghenion ychwanegol yn effeithio ar ddewisiadau'r teulu a'u cyfle i fwynhau bywyd normal; mae'r radd o gynllunio a chymorth sydd eu hangen i ddiwallu eu hanghenion yn uwch o lawer nag sydd ei hangen fel rheol i ddiwallu anghenion plant. ac Mae angen lefel uchelo gymorth ychwanegol arnynt mewn tri neu fwy o’r saith maes cymorth Cronfa'r Teulu a nodir isod. ac Mae eu cyflwr yn un tymor hir neu sy'n byrhau bywyd (mae tymor hir yn golygu ei fod yn para neu'n debygol o bara 12 mis neu fwy). Saith maes cymorth Cronfa'r Teulu Dylai eich plentyn fod angen cymorth ychwanegol mewn tri o leiaf o'r saith maes isod: Gofal personol – golygwn bethau fel cymorth corfforol sydd ei angen gyda bwyta, ymolchi, mynd i'r toiled neu symud a throsglwyddo plentyn. Mynediad at weithgareddau cymdeithasol – golygwn bethau fel ymgysylltu'n gymdeithasol a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Addysg – golygwn y math o gymorth a roddir ar gyfer dysgu, a phwy sy'n ei roi? Cyfathrebu – golygwn wrando, siarad a deall. Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth – golygwn oruchwyliaeth a mesurau yn eu lle i sicrhau diogelwch plentyn. Triniaeth feddygol neu therapiwtig neu Reoli cyflwr – golygwn pa driniaeth neu therapi a roddir, gan bwy, pa mor aml, a phryd? Amgylchedd ffisegol ac Adnoddau arbenigol – golygwn bethau fel addasiadau a chymwysiadau ffisegol sydd eu hangen ar gyfer symud o gwmpas a pha offer arbenigol neu adnoddau a ddefnyddir. Nid oes angen diagnosis ar blant a phobl ifanc er mwyn bodloni meini prawf Cronfa'r Teulu, ond mae'n rhaid bod eu hanghenion cymorth ychwanegol yn ymgodi o anabledd neu gyflwr sy'n anablu. Mae'n rhaid i chi hefyd fodloni pob un o’n meini prawf cymhwysedd cyffredinol.