Ar ôl i chi wneud cais Ar gyfer ceisiadau am y tro cyntaf Fel rheol mae'n cymryd tua thri neu bedwar mis i ni gwblhau eich cais ond mae'r raddfa amser hon yn un fras ac ni ellir ei gwarantu. Bydd y gwir amser a gymerir i ddelio â chais yn dibynnu ar faint o geisiadau sydd gennym a'r cyllid sydd ar gael ar unrhyw adeg benodol. Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen Fel rheol mae'n cymryd rhwng chwech ac wyth wythnos i ni wneud penderfyniad ar eich cais ar ôl i ni dderbyn yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani ond mae'r raddfa amser hon yn un fras ac ni ellir ei gwarantu. Bydd y gwir amser a gymerir i ddelio â chais yn dibynnu ar faint o geisiadau a dderbyniwn a'r cyllid sydd ar gael ar unrhyw adeg benodol. Er mwyn trin pob teulu'n deg, mae'r holl geisiadau'n cael eu hystyried yn nhrefn y dyddiad derbyn. Os yw eich cais yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl, cysylltwch â ni neu gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein i fonitro'r cynnydd. Unwaith bydd eich grant wedi ei ddyfarnu, gallwch weld mwy o wybodaeth ynglŷn â sut gallwch ei ddefnyddio yma. Beth all arafu cais? Os yw eich ffurflen gais yn anghyflawn neu mae copïau o rai o'r dogfennau gofynnol yn eisiau, yna caiff eich cais ei ddychwelyd atoch i'w gwblhau. Ni allwn ystyried cais nes i ni ei dderbyn yn hollol gyflawn. Pan fyddwn yn edrych ar eich cais efallai bydd angen i ni ofyn am wybodaeth ychwanegol. Os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnom, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu mewn ysgrifen. Bydd angen y wybodaeth hon er mwyn i ni fedru parhau i ystyried eich cais. Os yw eich cais yn aflwyddiannus Gall teulu ofyn am i unrhyw benderfyniad ar gais gael ei ailystyried. Gelwir hyn yn apêl. Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad ynghylch eich cais, cysylltwch â'r Rheolwr Grantiau i ofyn am i'r penderfyniad gael ei ailystyried gan roi eich rhesymau ac unrhyw wybodaeth ychwanegol. Mae'n rhaid cyflwyno apeliadau a chwynion o fewn tri mis o ddyddiad y penderfyniad neu fater. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod yr holl apeliadau a chwynion: Yn cael eu hystyried yn drwyadl Yn cael eu hateb yn gyflym Yn cael eu trin yn deg Yn cael eu datrys yn foddhaol I wneud apêl neu gŵyn, cysylltwch â ni.