Ydych chi'n gymwys i ymgeisio? Rydym yn helpu teuluoedd ar draws y DU sy'n magu plentyn neu berson ifanc anabl neu ddifrifol wael 17 oed ac iau. Expand Pwy rydyn ni'n eu helpu? Rydym yn helpu teuluoedd ar draws y DU sy'n magu plentyn neu berson ifanc anabl neu ddifrifol wael 17 oed ac iau. Gallwch wneud cais i Gronfa'r Teulu os: Ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban. Rydych yn rhiant neu'n ofalydd i blentyn neu berson ifanc anabl neu ddifrifol wael 17 oed ac iau. Rydych yn byw'n barhaol yn y DU ac wedi byw yn y DU yn ystod y chwe mis diwethaf. Mae gennych dystiolaeth o'ch hawl i un o'r canlynol: Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Ceiswyr Swydd Incwm-Seiliedig, Cymorth Incwm, Budd-dal Analluogrwydd*, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai a Chredyd Pensiwn. Os nad ydych yn derbyn unrhyw un o'r uchod, gallwch wneud cais beth bynnag, ond bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnom ynglŷn ag incwm eich cartref. Yn dibynnu ar faint o arian sy'n dod i mewn i'ch cartref, efallai na fyddwn yn gallu helpu gan fod rhaid i ni flaenoriaethu'r rhai sydd ar yr incymau isaf. Os nad ydych yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau uchod, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol a thystiolaeth o holl incwm eich cartref, a byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi wneud cais. Os hoffech ofyn unrhyw gwestiynau neu drafod y cais cyn i chi ei wneud, cysylltwch â ni. *Noder: Efallai bydd angen i ni gysylltu â chi am ragor o wybodaeth ynghylch incwm eich cartref. Pam mae terfyn incwm? Rhoddir ein holl grantiau yn ôl disgresiwn ac maent yn amodol ar y cyllid sydd ar gael, felly efallai byddwn yn gwrthod cais ble mae gan deulu lefel sylweddol o gyfalaf neu incwm y cartref. Ble nad ydym yn gallu helpu Ni allwn helpu plant a phobl ifanc yng ngofal awdurdodau lleol, yn cynnwys y rhai hynny sy'n byw gyda gofalwyr maeth. Mae hyn oherwydd bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyffredinol i ddiogelu a hybu lles unrhyw blentyn yn eu gofal, ac i ddiwallu anghenion y plentyn. Ni allwn helpu ychwaith gyda cheisiadau ble mae gan asiantaeth statudol (fel awdurdodau lleol neu wasanaethau iechyd) gyfrifoldeb i ddarparu'r eitem sydd ei hangen. Cwestiynau Cyffredin “Nid oedd fy mhlentyn yn gymwys i dderbyn cymorth o'r blaen. A alla i wneud cais eto? “ Er bod plentyn efallai heb fodloni ein meini prawf cymhwyster i dderbyn cymorth i ddechrau, gall hyn newid gydag amser a gallent ddod o fewn ein meini prawf yn ddiweddarach. Neu efallai bydd cyflwr plentyn wedi gwaethygu ers y tro diwethaf a nawr rydych yn teimlo y bydden nhw'n bodloni'n meini prawf. Cofiwch – Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch a fyddai eich plentyn neu berson ifanc yn bodloni meini prawf y Gronfa, gwnewch gais. Pan dderbyniwn eich cais, byddwn yn gwirio a ydyw'n bodloni ein holl feini prawf cymhwysedd.Gwneud cais am grant.
Ein meini prawf anabledd Rydym yn defnyddio ein meini prawf anabledd i benderfynu a ydyw plentyn yn gymwys neu beidio. Nid oes angen i chi aros am ddiagnosis i'ch plentyn cyn i chi wneud cais am grant os ydych yn credu bod eich plentyn yn bodloni'r meini prawf isod. Expand Beth yw meini prawf anabledd Cronfa'r Teulu? Mae cyllid Cronfa'r Teulu yn gyfyngedig, felly ni allwn helpu'r holl deuluoedd sy'n gofalu am blentyn neu berson ifanc anabl. Rydym yn defnyddio ein meini prawf anabledd i benderfynu a ydyw plentyn yn gymwys neu beidio. Mae hyn yn golygu nad yw'r dyfarniadau Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn ddangosydd bod plentyn yn gymwys i dderbyn grant Cronfa'r Teulu. Nid oes angen i chi aros am ddiagnosis i'ch plentyn cyn i chi wneud cais am grant os ydych yn credu bod eich plentyn yn bodloni'r meini prawf isod. Meini prawf Mae'n rhaid bod gan blant a phobl ifanc anghenion cymhleth ychwanegol, neu fod ag afiechyd difrifol neu sy'n bygwth bywyd.Mae'n rhaid gweld tystiolaeth fod anghenion ychwanegol y plentyn yn effeithio ar ddewisiadau'r teulu a'u gallu i fwynhau bywyd normal. Mae'r radd o gynllunio a chymorth sydd eu hangen i ddiwallu eu hanghenion yn llawer uwch nag sydd eu hangen fel rheol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc.Mae'n rhaid bod angen lefel uchel o gymorth arnynt mewn tri neu fwy o'r meysydd canlynol: Yr amgylchedd corfforol Addysg Cyfathrebu Mynediad i weithgareddau cymdeithasol Gofal personol, goruchwyliaeth a gwyliadwriaeth Mae angen adnoddau arbenigol, yn cynnwys technoleg gwybodaeth a chyfathrebu Triniaeth feddygol neu therapiwtig a rheoli cyflwr. Mae'n rhaid bod cyflwr y plentyn neu berson ifanc yn un tymor hir neu sy'n cyfyngu ar ddisgwyliad oes. Mae tymor hir yn golygu ei fod yn para, neu'n debygol o bara 12 mis neu fwy. Mae plant gyda diagnosis wedi ei gadarnhau am gyflyrau penodol a allai fod yn ddirywiol, yn cyfyngu ar ddisgwyliad oes neu yn bygwth bywyd yn debygol o fodloni meini prawf anabledd y Gronfa. Er enghraifft, plentyn gyda diagnosis wedi ei gadarnhau am syndrom dirywiol, neu blentyn gyda diagnosis cyfredol o ganser neu lewcemia. Mae plant yn annhebygol o fodloni meini prawf y Gronfa os mai eu prif neu unig anhawster yw un o'r canlynol: Mae ganddyn nhw ecsema, asthma neu alergeddau Mae ganddyn nhw anawsterau addysgol penodol – fel dyslecsia, dyscalcwlia neu lythrennedd gwael Mae eu cyflwr yn sefydlog ac yn cael ei reoli drwy feddyginiaeth, deiet, monitro, profion gwaed neu drallwysiadau ac nid oes unrhyw argyfyngau meddygol diweddar wedi digwydd o ganlyniad i'w cyflwr.
Am beth allwn ni wneud cais? Byddwn yn edrych ar unrhyw gais am grant sy'n ymwneud ag anghenion plentyn neu berson ifanc anabl neu ddifrifol wael a'u teulu. Expand Yng Nghymru, mae ein cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi'i gynllunio i gefnogi grantiau sy'n: Cefnogi teuluoedd i gymryd egwyl fel teulu Cefnogi rhieni a gofalwyr i gymryd seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu Cefnogi teuluoedd gydag eitemau sy'n helpu i hwyluso rhai o'r pwysau dyddiol y maent yn eu hwynebu. Yn ychwanegol at egwyliau teulu a seibiannau byr, byddwn yn edrych ar unrhyw gais am grant sy'n ymwneud ag anghenion plentyn, person ifanc a'u teulu sy'n anabl neu'n ddifrifol wael. Gallai hyn fod yn dodrefn, dillad, dillad gwely, offer cegin, teganau synhwyraidd, cyfrifiaduron neu dabledi. Sylwer, fodd bynnag, fod ein harian ar gyfer y mathau hyn o eitemau grant yn llawer mwy cyfyngedig, ac efallai na fyddwn yn gallu helpu gyda phob cais. Wrth wneud cais, meddyliwch am beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth. Os hoffech ofyn am fwy nag un eitem, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhestru eich ceisiadau gyda'r eitemau pwysicaf yn gyntaf. Byddwn yn ystyried eich ceisiadau am grant yn nhrefn blaenoriaeth. Rydym yn ceisio helpu cymaint o deuluoedd â phosibl ond efallai na fyddwn bob amser yn gallu eu helpu gyda'r holl eitemau y gofynnwyd amdanynt. Mae gennym gontractau gydag amrywiaeth o gyflenwyr i ddarparu'r rhan fwyaf o'n grantiau. Mae defnyddio contractau yn caniatáu i'r Gronfa drefnu disgowntiau gyda gwahanol gyflenwyr sy'n golygu bod ein cyllid yn mynd ymhellach. Mae'r disgowntiau a dderbyniwn gan ein partneriaid yn sicrhau bod miloedd o deuluoedd ychwanegol yn cael cymorth bob blwyddyn ac mae'n ffrwd bwysig o refeniw i Gronfa'r Teulu. Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â'r prif gyflenwyr y gweithiwn gyda nhw yma. Oherwydd bod ein cyllid yn gyfyngedig, ni allwn helpu gyda phob cais yn enwedig ar gyfer eitemau sy'n uchel iawn eu gwerth. Er enghraifft, ceir neu wersi gyrru. Ni allwn helpu ychwaith gyda cheisiadau ble mae gan asiantaeth statudol (fel awdurdodau lleol neu wasanaethau iechyd) gyfrifoldeb i ddarparu'r eitem sydd ei hangen.
Gwneud cais am grant Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf, bydd angen i chi lawrlwytho ffurflen gais neu gallwch ofyn am i ni anfon un i chi. Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen, efallai y gallwch wneud cais ar-lein. Expand Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf Bydd angen i chi lawrlwytho ffurflen gais neu gallwch ofyn am i ni anfon un i chi. Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen Mae'r ffurflen gais a'r llyfryn yn cynnwys yr holl wybodaeth ynglŷn â sut i lenwi'r ffurflen a pha ddogfennau (llungopïau yn unig os gwelwch yn dda) mae angen i chi eu cynnwys. Rydym hefyd wedi cynhyrchu'r fideo hwn, sy'n darparu canllawiau cam wrth gam ar sut i lenwi'r ffurflen gais.Rydym yn derbyn un cais gan bob teulu, felly, os ydych yn gwneud cais ar ran mwy nag un plentyn, llenwch ffurflen plentyn ychwanegol ar gyfer pob plentyn rydych yn gwneud cais amdanynt. Cofiwch, gallwn helpu teuluoedd unwaith bob 12 mis yn unig. Bydd eich llythyr cadarnhau dyfarniad diwethaf yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â phryd gallwch wneud eich cais nesaf. Cofiwch, os ydych wedi gwneud cais ar-lein fwy na thair gwaith yn olynol, efallai y gofynnir i chi lenwi ffurflen gais ar bapur. Os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw wybodaeth a ddarparwyd neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â ni.Lawrlwytho ffurflen gais.Lawrlwytho llyfryn gwneud cais.Lawrlwytho ffurflen plentyn ychwanegol.Lawrlwytho ffurflen monitro ethnig.Lawrlwytho ein telerau ac amodau.
Ar ôl i chi wneud cais Fel rheol mae'n cymryd tua thri neu bedwar mis i ni gwblhau eich cais ond mae'r raddfa amser hon yn un fras ac ni ellir ei gwarantu. Expand Ar gyfer ceisiadau am y tro cyntaf Fel rheol mae'n cymryd tua thri neu bedwar mis i ni gwblhau eich cais ond mae'r raddfa amser hon yn un fras ac ni ellir ei gwarantu. Bydd y gwir amser a gymerir i ddelio â chais yn dibynnu ar faint o geisiadau sydd gennym a'r cyllid sydd ar gael ar unrhyw adeg benodol. Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen Fel rheol mae'n cymryd rhwng chwech ac wyth wythnos i ni wneud penderfyniad ar eich cais ar ôl i ni dderbyn yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani ond mae'r raddfa amser hon yn un fras ac ni ellir ei gwarantu. Bydd y gwir amser a gymerir i ddelio â chais yn dibynnu ar faint o geisiadau a dderbyniwn a'r cyllid sydd ar gael ar unrhyw adeg benodol. Er mwyn trin pob teulu'n deg, mae'r holl geisiadau'n cael eu hystyried yn nhrefn y dyddiad derbyn. Os yw eich cais yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl, cysylltwch â ni neu gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein i fonitro'r cynnydd. Unwaith bydd eich grant wedi ei ddyfarnu, gallwch weld mwy o wybodaeth ynglŷn â sut gallwch ei ddefnyddio yma. Beth all arafu cais? Os yw eich ffurflen gais yn anghyflawn neu mae copïau o rai o'r dogfennau gofynnol yn eisiau, yna caiff eich cais ei ddychwelyd atoch i'w gwblhau. Ni allwn ystyried cais nes i ni ei dderbyn yn hollol gyflawn. Pan fyddwn yn edrych ar eich cais efallai bydd angen i ni ofyn am wybodaeth ychwanegol. Os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnom, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu mewn ysgrifen. Bydd angen y wybodaeth hon er mwyn i ni fedru parhau i ystyried eich cais. Os yw eich cais yn aflwyddiannus Gall teulu ofyn am i unrhyw benderfyniad ar gais gael ei ailystyried. Gelwir hyn yn apêl. Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad ynghylch eich cais, cysylltwch â'r Rheolwr Grantiau i ofyn am i'r penderfyniad gael ei ailystyried gan roi eich rhesymau ac unrhyw wybodaeth ychwanegol. Mae'n rhaid cyflwyno apeliadau a chwynion o fewn tri mis o ddyddiad y penderfyniad neu fater. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod yr holl apeliadau a chwynion: Yn cael eu hystyried yn drwyadl Yn cael eu hateb yn gyflym Yn cael eu trin yn deg Yn cael eu datrys yn foddhaol I wneud apêl neu gŵyn, cysylltwch â ni.