Sut i wneud cais

Dylai ceisiadau am grant Cronfa'r Teulu gael eu gwneud gan riant* neu ofalydd* y plentyn neu'r person ifanc anabl. Gall pobl ifanc 16 a 17 oed wneud cais dros eu hun.

Dylai ceisiadau gael eu gwneud fesul teulu.

Os ydych yn gwneud cais ar ran mwy nag un plentyn anabl, llenwch ffurflen plentyn ychwanegol ar gyfer pob plentyn rydych yn gwneud cais ar ei gyfer.

*Dylai hwn fod y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac y mae'r plentyn yn byw gydag ef/hi.

Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf

A person completing a Family Fund application form.

Os mai hwn yw eich cais cyntaf i Gronfa'r Teulu, llwythwch ffurflen gais a'n telerau ac amodau i lawr. Bydd angen i chi gyflwuno ffurflen plentyn ychwanegol ar gyfer pob plentyn rydych yn gwneud cais ar ei gyfer a gallwch hefyd lwytho Ffurflen Ethnig i lawr.
Neu os hoffech ofyn am gael pecyn cais drwy'r post cysylltwch â ni.

I wneud cais cyntaf:

  • lLlwythwch y ffurflen gais a'n telerau ac amodau i lawr.
  • Llenwch y ffurflenni.
  • Dywedwch wrthon ni beth sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth i'ch plentyn neu berson ifanc anabl neu eich teulu. Sicrhewch eich bod yn gosod eich ceisiadau yn nhrefn eu pwysigrwydd i chi a'ch teulu.
  • Anfonwch y pecyn cais gyda'r wybodaeth ofynnol at Gronfa'r Teulu.

Ni allwn brosesu eich cais os na fyddwch yn anfon yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdano.

Mae pob grant yn ddewisol ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.  Efallai na fyddwn yn gallu eich helpu gyda phopeth y gofynnoch amdano.

Os ydych yn ymgeisio eto

Person applying for a Family Fund grant online.

Os ydych wedi cael cymorth gennym ni yn barod, mae'r llythyr a anfonwyd gennym i gadarnhau'r grant yn dweud wrthych pryd gallwn ystyried cais newydd gennych. Fel rheol mae hyn 12 mis ar ôl dyddiad eich grant diwethaf, ond gallai fod yn hirach.

Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen, efallai y gallwch ymgeisio am eich grant ar-lein gan ddefnyddio'ch rhif Cronfa'r Teulu.

Neu gallwch lwytho ffurflen gais a'n telerau ac amodau i lawr. Bydd angen i chi ddarparu ffurflen plentyn ychwanegol ar gyfer bob plentyn rydych yn gwneud cais ar ei gyfer.

Neu os hoffech ofyn am gael pecyn cais drwy'r post cysylltwch â ni.

Gofynnwn i chi anfon cadarnhad incwm diweddaraf y cartref fel y gallwn gadarnhau eich bod yn dal i fodloni ein meini prawf incwm.

Mae'n rhaid i ni gael gwybod hefyd am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau. Er enghraifft:

  • Newid enw(au)
  • Newidiadau i ddyfarniadau Lwfans Byw i’r Anabl
  • Newidiadau yng nghyflwr eich plentyn
  • Os yw eich plentyn wedi symud i fyw gyda rhywun arall
  • Newid mewn manylion banc
  • Newid cyfeiriad

Efallai byddwn hefyd yn gofyn i chi roi gwybodaeth ychwanegol i gefnogi eich cais. Mae pob grant yn ddewisol ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.  Efallai na fyddwn yn gallu eich helpu gyda phopeth y gofynnoch amdano.

Pa mor aml allwn ni helpu

Rydym yn ceisio helpu teuluoedd sy'n magu plentyn neu berson ifanc anabl neu ddifrifol wael unwaith bob blwyddyn. Fodd bynnag, deallwn fod yr angen am help yn gallu bod yn fwy enbyd ar brydiau, yn enwedig os oes argyfwng neu sefyllfa ddifrifol mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc anabl. Os digwydd hyn, rydym yn ceisio bod yn hyblyg ac ystyried cais cynnar. Mae pob grant yn ddewisol ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.

Os ydych wedi cael cymorth gennym ni yn barod, mae'r llythyr sy'n cadarnhau'r grant yn dweud pryd gallwn ystyried cais newydd gennych. Fel rheol mae hyn 12 mis ar ôl dyddiad eich grant diwethaf, ond gallai fod yn hirach.

Os oedd eich cais diwethaf yn aflwyddiannus, gallwch wneud cais eto os bydd eich amgylchiadau wedi newid. Os ydych yn ansicr ynghylch pryd gallwch wneud cais arall, neu os oes angen ffurflen gais mewn print bras arnoch, cysylltwch â ni.