Ar ôl i chi wneud cais

Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf

Image of a family we have helped.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich cais trwy neges testun. Mae hefyd angen i ni wirio bod eich teulu a'ch plentyn yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd. Bydd hyn yn golygu gwirio'r wybodaeth a roesoch i ni.

I wneud hyn bydd angen i ni dderbyn:

  • Eich ffurflen gais wedi'i llenwi. Sicrhewch eich bod yn anfon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, er enghraifft cadarnhad o'ch incwm. Ni allwn brosesu eich cais os nad ydych yn anfon yr holl wybodaeth rydym yn gofyn amdani.
  • Yn ychwanegol, efallai bydd angen i ni drefnu ymweliad â'ch cartref neu sgwrs dros y ffôn rhyngoch chi ac un o'n Cynghorwyr Cronfa'r Teulu.

Fel rheol mae'n cymryd tua thri neu bedwar mis i ni gwblhau eich cais ond mae'r raddfa amser hon yn un fras ac ni ellir ei gwarantu. Bydd y gwir amser a gymerir gyda chais yn dibynnu ar faint o geisiadau sydd gennym a'r cyllid sydd ar gael ar unrhyw adeg benodol.

Er mwyn trin pob teulu'n deg, mae ceisiadau'n cael eu hystyried yn nhrefn y dyddiad derbyn. 

Os ydych yn ymgeisio eto

Image of a family we have helped.

Byddwn yn dweud wrthych pan fyddwn wedi derbyn eich ffurflen gais trwy destun. Gofynnwn i chi anfon cadarnhad incwm diweddaraf y cartref fel y gallwn gadarnhau eich bod yn dal i fodloni ein meini prawf incwm. Bydd hyn yn golygu gwirio'r wybodaeth a roesoch i ni.

Mae'n rhaid i ni gael gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau. Er enghraifft:

  • Newid enw(au)
  • Newidiadau i ddyfarniadau Lwfans Byw i’r Anabl
  • Newidiadau yng nghyflwr eich plentyn
  • Os yw eich plentyn wedi symud i fyw gyda rhywun arall
  • Newid mewn manylion banc
  • Newid cyfeiriad

Efallai byddwn hefyd yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol i gefnogi eich cais.
Fel rheol mae'n cymryd rhwng dwy a chwe wythnos i ni wneud penderfyniad ar eich cais ar ôl i ni dderbyn yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdano ond mae’r raddfa amser hon yn un fras ac ni ellir ei gwarantu. Bydd y gwir amser a gymerir gyda chais yn dibynnu ar faint o geisiadau sydd gennym a'r cyllid sydd ar gael ar unrhyw adeg benodol.

Er mwyn trin pob teulu'n deg, mae ceisiadau'n cael eu hystyried yn nhrefn y dyddiad derbyn. 

Sut rydym ni’n gwneud dyfarniadau

Yn dibynnu ar beth rydych wedi gofyn amdano, byddwn yn dyfarnu eich grant mewn nifer o wahanol ffyrdd. Dyfernir ein holl grantiau ar yr amod y byddant yn cael eu defnyddio ddim ond at y pwrpas y'u rhoddwyd.

Efallai byddwn yn rhoi:

  • Cerdyn talu ar gyfer cais am offer cegin, dillad, dodrefn, adloniant cartref ac eitemau hamdden.
  • Cynnyrch a ddanfonir i'ch cartref yn uniongyrchol oddi wrth gyflenwr cyfrifiaduron. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon bydd hyn yn cynnwys offer cegin.
  • Taliad uniongyrchol neu daleb gan gyflenwr tuag at wyliau. Rydym yn cydweithio gyda Haven a Thomas Cook o ran gwyliau. Gall Thomas Cook drefnu tocynnau hedfan, gwyliau yn y DU a gwyliau tramor gyda llawer o'r cwmnïau gwyliau mwyaf poblogaidd fel Hoseasons, Thomson, First Choice a llawer mwy.

Gellid hefyd gwneud taliad i'ch cyfrif ar gyfer eitemau eraill ble nad oes gennym drefniad gyda chyflenwr. Os nad oes gennych gyfrif banc, gallwch enwebu a rhoi manylion person y gellir talu eich grant i'w cyfrif.

 

Downloads